Croeso i Ysgol Porth Y Felin

Ffurfiwyd Ysgol Porth Y Felin fel Ysgol wirfoddol dan reolaeth yr Eglwys yng Nghymru yn Mis Medi 1998 yn dilyn uno Ysgolion Bodlondeb, Gyffin a Chadnant. Mae’r Ysgol wedi ei enwi ar ôl un o byrth tref caerog Conwy.

Rydym yn addysgu dros 300 o ddisgyblion mewn awyrgylch gyfeillgar, cynhaliol a chyfeillgar. Y mae pob aelod o staff yn ymdrechu i’r eithaf er mwyn sicrhau fod pob disgybl yn ymgyrraedd a’r safonau gorau posib. Mae enw da’r Ysgol yn destun balchder i ni oll ac rydym yn gweithio’n ddi baid i ddarparu profiadau cyffrous a symbylol sydd yn codi safonau er budd ein holl ddisgyblion.

Rydym yn ogystal yn hynod o falch o’n darpariaeth all gyrsiol. Cynnigir amrediad o weithgareddau gan gynnwys clwb Yr Urdd a chwaraeon amrywiol megis pel droed, pel rwyd, tenis, athletau a nofio yn ogystal a chystadlu yn Eisteddofd Yr Urdd. Mae’r ymweliadau dros nos a drefnir yn yr adran Iau yn cynnig profiadau bythgofiadwy. Yn ogystal fe gynnigir profiadau amrywiol megis y clwb coginio a chlwb garddio.

Mae llais y disgybl a’u cyfraniad i fywyd yr ysgol yn hynod o bwysig i ni. Un o’r nifer o gyfraniadau gwerthfawr a wnaed gan y cyngor disgyblion oedd dewis arwyddair ar gyfer yr Ysgol sef –Credu, Parchu, Llwyddo.

Mawr obeithiaf y cewch flas o fywyd cyffrous a phrysur ein ysgol.

Mr. Paul Thomas BA(Anrh) TAR CPCP
Pennaeth