Ysgol

Porth y Felin

Credu Parchu Llwyddo

Croeso i Ysgol Porth y Felin


Ysgol gynradd tref Conwy, Gogledd Cymru

Ffurfiwyd Ysgol Porth Y Felin fel Ysgol wirfoddol dan reolaeth yr Eglwys yng Nghymru yn Mis Medi 1998 yn dilyn uno Ysgolion Bodlondeb, Gyffin a Chadnant. Mae’r Ysgol wedi ei enwi ar ôl un o byrth tref caerog Conwy.

Rydym yn addysgu dros 300 o ddisgyblion mewn awyrgylch gyfeillgar, cynhaliol a chyfeillgar. Y mae pob aelod o staff yn ymdrechu i’r eithaf er mwyn sicrhau fod pob disgybl yn ymgyrraedd a’r safonau gorau posib. Mae enw da’r Ysgol yn destun balchder i ni oll ac rydym yn gweithio’n ddi baid i ddarparu profiadau cyffrous a symbylol sydd yn codi safonau er budd ein holl ddisgyblion.

Amdanom Ni